Canlyniadau Chwilio - Ocampo, Silvina

Silvina Ocampo

Bardd a llenores straeon byrion yn yr iaith Sbaeneg a chyfieithydd ac arlunydd o'r Ariannin oedd Silvina Ocampo (28 Gorffennaf 190314 Rhagfyr 1993).

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, i deulu cefnog. Un o'i chwiorydd hŷn oedd Victoria Ocampo, cyhoeddwr y cylchgrawn llenyddol ''Sur''. Astudiodd Silvina baentio ym Mharis.

Priododd y llenor Adolfo Bioy Casares, yn 1940, a chawsant ferch o'r enw Marta yn 1954. Roedd yn gyfeillgar â nifer o feistri llên yr Ariannin yn yr 20g, gan gynnwys Jorge Luis Borges a Julio Cortázar. Cydweithiodd ar sawl gwaith â'i gŵr, gan gynnwys y gyfrol o straeon ''Los que aman, odian'' (1948). Ymhlith ei chyfrolau o farddoniaeth mae ''Poemas de amor desesperado'' (1949) ac ''Amarillo celeste'' (1972), ac ymhlith ei chasgliadau ffuglen mae ''Autobiografia de Irene'' (1959), ''La furia'' (1961), ac ''El Destino en las ventanas'' (1987). Cyfieithiodd waith nifer o lenorion Americanaidd i'r Sbaeneg, gan gynnwys Emily Dickinson, Edgar Allan Poe, ac Herman Melville.

Cydweithiodd Ocampo, Bioy Casares, a Borges wrth olygu ''Antología de la literatura fantástica'' (1940) ac ''Antología poética argentina'' (1941).

Bu farw yn Buenos Aires yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Las invitadas gan Ocampo, Silvina

    Cyhoeddwyd 1979
  2. 2

    El pecado mortal gan Ocampo, Silvina

    Cyhoeddwyd 1966
  3. 3

    Antologia de la Literatura Fantastica gan Borges, Jorge Luis, Ocampo, Silvina, Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1967
  4. 4