Canlyniadau Chwilio - Martin, George

George Martin

Cynhyrchydd recordiau, trefnydd cerddoriaeth, cyfansoddwr, arweinydd, peiriannydd sain a cherddor o Loegr oedd Syr George Henry Martin CBE (3 Ionawr 1926 – 8 Mawrth 2016). Weithiau mae'n cael ei ddisgrifio fel y "pumed Beatle" gan gyfeirio at ei waith ar bob un o albymau gwreiddiol y Beatles. Cyrhaeddodd 30 o senglau Martin rif un yn siartiau'r Deyrnas Unedig ac aeth 23 i rif un yn yr Unol Daleithiau.

Mynychodd Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall rhwng 1947 a 1950, lle'r astudiai'r piano a'r obo. Ar ôl graddio, gweithiodd i adran gerddoriaeth glasurol y BBC, cyn ymuno ag EMI yn 1950. Cynhyrchodd Martin recordiau comedi a nofelti yn y 1950au cynnar, yn gweithio gyda Peter Sellers a Spike Milligan, ymysg eraill.

Ymestynnai gyrfa Martin dros chwe degawd o waith mewn cerddoriaeth, ffilm, teledu a pherfformio byw. Bu hefyd mewn swyddi gweithredol uwch mewn cwmnïau cyfryngol a chyfranodd i ystod eang o achosion da, yn cynnwys ei waith i'r Prince's Trust a ynys Montserrat yn y Caribi.

I gydnabod ei wasanaeth i'r diwydiant cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd, fe'i gwnaed yn Farchog Gwyryf yn 1996. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    VERDI gan Martin, George

    Cyhoeddwyd 1984
  2. 2

    Juego de Tronos : Cancion de hielo y fuego 1 gan Martin, George R.R.

    Cyhoeddwyd 2012
  3. 3

    Choque de reyes : Cancion de hielo y fuego 2 gan Martin, George R.R.

  4. 4

    Tormenta de espadas : Cancion de hielo y fuego 3 gan Martin, George R.R.

  5. 5

    Festin de cuervos : Cancion de hielo y fuego 4 gan Martin, George R.R.

    Cyhoeddwyd 2013
  6. 6

    Danza de dragones : Cancion de hielo y fuego 5 gan Martin, George R.R.

    Cyhoeddwyd 2013