Canlyniadau Chwilio - Machado, Antonio, 1875-1939

Antonio Machado

Bardd a dramodydd Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Antonio Machado y Ruiz (26 Gorffennaf 187522 Chwefror 1939) a oedd yn un o aelodau blaenllaw ''La Generación del 98''.

Ganed yn Sevilla, Andalucía, yn Nheyrnas Sbaen. Derbyniodd ddoethuriaeth llenyddiaeth ym Madrid cyn iddo astudio yn y Sorbonne, a gweithiodd yn athro Ffrangeg. Ffoes Sbaen yn sgil cwymp yr Ail Weriniaeth ym 1939 a bu farw yn Collioure yn ne Ffrainc yn 63 oed.

Rhennir ei farddoniaeth yn dri chyfnod: ei gerddi dan ddylanwad Rhamantiaeth yn ''Soledades'' (1903) a ''Soledades, galerías, y otros poemas'' (1907); yr arddull noeth a phrudd megis yn y gyfrol ''Campos de Castilla'' (1912); a'r themâu dirfodol a geir yn ei gasgliadau diweddaraf, ''Nuevas canciones'' (1924) a ''Poesías completas'' (1928). Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Antonio Machado gan Machado, Antonio, 1875-1939

    Cyhoeddwyd 1997
    Libro