Canlyniadau Chwilio - Larreta, Enrique

Enrique Larreta

Nofelydd yn yr iaith Sbaeneg a diplomydd o'r Ariannin oedd Enrique Rodríguez Larreta (4 Mawrth 18757 Gorffennaf 1961). Ei gampwaith ydy ''La gloria de Don Ramiro: Una vida en tiempos de Felipe II'' (1908), un o'r nofelau hanesyddol gwychaf yn holl lên America Ladin.

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, yn fab i rieni cefnog o Wrwgwái. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Buenos Aires. Teithiodd i Fadrid ac yno cafodd ei ddylanwadu gan y nofelydd Ffrengig Maurice Barrès. Treuliodd bum mlynedd yn Sbaen yn gwneud gwaith ymchwil am gyfnod Felipe II ar gyfer ei nofel, ''La gloria de Don Ramiro''.

Penodwyd yn llysgennad yr Ariannin i Ffrainc yn 1910, a daliodd y swydd honno hyd 1919.

Ymhlith ei nofelau eraill mae ''Zogoibi'' (1926), enghraifft o lenyddiaeth y ''gaucho'', a ''Gerardo o la torre de las damas'' (1953) a'i ddilyniant ''En la pampa'' (1955), a gyhoeddant ar ffurf un gyfrol, ''El gerardo'' (1956). Ysgrifennodd hefyd gyfrol o atgofion ac ysgrifau, ''La naranja'' (1948).

Bu farw yn Buenos Aires yn 86 oed. Mae ei gartref yno bellach yn amgueddfa gelf Sbaenaidd. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 8 canlyniadau o 8
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    La gloria de Don Ramiro : Una vida en tiempos de Felipe II gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1944
  2. 2

    La gloria de Don Ramiro: Una vida en tiempos de Felipe II gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1970
  3. 3

    La gloria de Don Ramiro gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1968
  4. 4

    Jeronimo y su almohada : Notas Diversas gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1946
  5. 5

    El linyera : Pasion en Roma gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1944
  6. 6

    La que buscaba Don Juan : Artemis-Discursos gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1945
  7. 7

    La calle de la vida y de la muerte gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1945
  8. 8

    El linyera gan Larreta, Enrique

    Cyhoeddwyd 1945