Canlyniadau Chwilio - Bioy Casares, Adolfo

Adolfo Bioy Casares

Nofelydd, llenor straeon byrion, a golygydd yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Adolfo Bioy Casares (15 Medi 19148 Mawrth 1999). Roedd yn un o brif ffigurau llên yr Ariannin yn yr 20g. Mae ei ffuglen yn nodedig am ei harddull ffantastig a'i themâu metaffisegol.

Ganwyd i deulu cefnog yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, gyda chefnogaeth ei dad, yn 1929. Astudiodd y gyfraith cyn iddo newid ei gwrs i athroniaeth a llên ym Mhrifysgol Buenos Aires. Cyhoeddodd tair cyfrol o straeon byrion (''17 disparos contra el porvenir'', 1933; ''Caos'', 1934; ''Luis Greve, muerto'', 1937) ac un nofel (''La nueva tormenta o la vida de Juan Ruteno'', 1935) cyn iddo ennill enw amlwg fel awdur y nofel ''La invención de Morel'' (1940).

Cyfarfu Jorge Luis Borges yn 1932, a bu'r ddau yn gyfeillion ac yn gydweithwyr llenyddol hyd oes. Golygasant y cylchgrawn llenyddol ''Destiempo'' yn 1936. Cyd-ysgrifennodd Bioy Casares a Borges sawl gwaith dan ffugenwau megis Honorio Buston Domecq, B. Suarez Lynch, a B. Lynch Davis. Ymhlith eu gweithiau ar y cyd mae ''Seis problemas para Don Isidro Parodi'' (1942) a ''Crónicas de Bustos Domecq'' (1967), cyfres sy'n dychanu bywyd cyhoeddus yr Ariannin. Cyd-olygasant gyfrol o straeon ditectif, ''Los mejores cuentos policiales'' (1943), a dwy gyfrol o farddoniaeth ''gaucho'', ''Poesía gauchesca'' (1955). Priododd y bardd a llenores straeon byrion Silvina Ocampo, yn 1940, a chawsant ferch o'r enw Marta yn 1954. Cydweithiodd ar sawl gwaith â'i wraig, gan gynnwys y gyfrol o straeon ''Los que aman, odian'' (1948). Cydweithiodd Bioy Casares, ei wraig Silvina, a Borges wrth olygu ''Antología de la literatura fantástica'' (1940) ac ''Antología poética argentina'' (1941). Rhwng 1945 a 1960, rheolwyd menter gyhoeddi gan Bioy Casares a Borges i gyfieithu nifer o lenorion Saesneg, gan gynnwys Cecil Day-Lewis, Joseph Conrad, H. G. Wells, ac Henry James, i'r Sbaeneg.

Ymhlith ei nofelau eraill mae ''Plan de evasión'' (1945), ''El sueño de los héroes'' (1954), ''Diario de la guerra del cerdo'' (1969), ''Dormir al sol'' (1973), a ''La aventura de un fotógrafo en La Plata'' (1985). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae ''La trama celeste'' (1948), ''El gran serafín'' (1967), ''Historias de amor'' (1972), a ''Historias fantásticas'' (1972).

Roedd Bioy Casares yn hoff iawn o baffio, ac yn chwarae tenis nes yr oedd yn 74 oed. Rhoddwyd Gwobr Cervantes, yr anrhydedd uchaf ei bri yn llenyddiaeth Sbaeneg, iddo yn 1990. Bu farw ei wraig Silvina yn 1993, a'u merch Marta ychydig dyddiau yn ddiweddarach mewn damwain ffordd. Yn nghyfnod diweddar ei oes, ymddangosodd mewn hysbyseb teledu ar gyfer cardiau credyd American Express. Bu farw yn Buenos Aires yn 84 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 19 canlyniadau o 19
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Dormir al sol gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1973
  2. 2

    Diario de la guerra del cerdo gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1976
  3. 3

    El sueño de los heroes gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1975
  4. 4

    La invencion de Morel gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1972
  5. 5

    Historias de amor gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1972
  6. 6

    Adversos milagros gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1969
  7. 7

    Una muñeca rusa/El lado de la sombra gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1995
    Libro
  8. 8

    El perjurio de la nieve gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1992
  9. 9

    El heroe de las mujeres gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1978
  10. 10

    La trama celeste gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1970
  11. 11

    Mascaras venecianas : La sierva ajena gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1994
  12. 12

    Diccionario del argentino exquisito gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1990
  13. 13

    Descanso de caminantes : Diarios intimos gan Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 2001
  14. 14

    Diario de la guerra del cerdo : novela gan Bioy Casares, Adolfo, 1914-1999

    Cyhoeddwyd 1969
    Libro
  15. 15

    Los mejores cuentos policiales gan Borges, Jorge Luis, Bioy Casares, Adolfo, Selec.

    Cyhoeddwyd 1962
  16. 16

    Antologia de la Literatura Fantastica gan Borges, Jorge Luis, Ocampo, Silvina, Bioy Casares, Adolfo

    Cyhoeddwyd 1967
  17. 17
  18. 18

    El buscador / gan Quentin, Patrick,, 1912-1987

    Cyhoeddwyd 2015.
    Awduron Eraill: “...Bioy Casares, Adolfo,, 1914-1999...”
    Libro
  19. 19

    Prueba de nervios / gan Hull, Richard

    Cyhoeddwyd 2015.
    Awduron Eraill: “...Bioy Casares, Adolfo,, 1914-1999...”
    Libro