Canlyniadau Chwilio - Benedetti, Mario

Mario Benedetti

Bardd, nofelydd, llenor straeon byrion, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Mario Benedetti (14 Medi 192017 Mai 2009). Cyhoeddodd mwy na 80 o lyfrau yn ystod ei oes.

Ganwyd yn Paso de los Toros, Tacuarembó, i fewnfudwyr Eidalaidd. Symudodd y teulu i'r brifddinas Montevideo pan oedd Mario yn 4 oed, ac yno mynychodd ysgol breifat.

Bu'n byw yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, am gyfnod cyn iddo ddychwelyd ym Montevideo yn nechrau'r 1940au. Yn 1945 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ''La víspera indeleble'', ac ymunodd â'r cylchgrawn adain-chwith ''Marcha''. Benedetti oedd un o sefydlwyr ''Frente Amplio'', mudiad adain-chwith cyffredin yn Wrwgwái. Priododd Luz López Alegre yn 1946, a buont yn briod nes ei marwolaeth hi o glefyd Alzheimer yn 2006. Mae ei gyfrolau eraill o farddoniaeth yn cynnwys ''Poemas de la oficina'' (1956). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae ''Montevideanos'' (1959), ac ymhlith ei nofelau mae ''La tregua'' (1960) ac ''El cumpleaños de Juan Angel'' (1971).

Wedi i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym yn 1973, bu'n rhaid i Benedetti adael Wrwgwái, ac aeth yn alltud yn yr Ariannin. Yno cafodd ei fygwth gan un o grwpiau parafilwrol yr adain dde, ac aeth i Beriw am chwe mis nes iddo gael ei allgludo. O'r diwedd, ymsefydlodd yng Nghiwba, a gweithiodd i'r cwmni cyhoeddi Casa de las Américas. Ysgrifennodd am ei brofiadau'n alltud yn y gyfrol ''El desexilio y otras conjeturas'' (1984).

Dychwelodd i Montevideo yn 1983, a bu'n teithio i Fadrid a Mallorca am gyfnodau hirion. Bu farw ym Montevideo yn 88 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 14 canlyniadau o 14
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    La Tregua gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1971
  2. 2

    Gracias por el fuego gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1971
  3. 3

    Primavera con una esquina rota gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1992
  4. 4

    Gracias por el fuego gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1976
  5. 5

    Inventario Dos : Poesia completa 1986-1991 gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1994
  6. 6

    El cumpleaños de Juan Angel gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1975
  7. 7

    Quien de nosotros gan Benedetti, mario

    Cyhoeddwyd 1976
  8. 8

    La muerte y otras sorpresas gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1975
  9. 9

    Cuentos completos gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1999
  10. 10

    El olvido esta lleno de memoria gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 2000
  11. 11

    Pedro y el capitan gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 2000
  12. 12

    La borra del cafe gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 1993
  13. 13

    La borra del cafe gan Benedetti, Mario

    Cyhoeddwyd 2003
  14. 14

    La casa y el ladrillo gan Benedetti, Mario, Sabato, Ernesto-Selec.

    Cyhoeddwyd 1998